Estron
19:30
£12
18/05/2018
Theatr Genedlaethol Cymru
mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr
Estron
gan Hefin Robinson
Gliniadur, tun o siocledi Quality Street, ac awdur yn chwilio am ei ddrama mewn bydysawd diderfyn.
Mae digwyddiadau ysgytwol diweddar wedi troi byd Alun ben i waered, ond yn y tywyllwch mae’n ceisio cysur gan ymwelydd o fyd arall.
Drama newydd amgen ar gyfer y genhedlaeth hon gan un o’n hawduron ifanc mwyaf talentog, ac enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Llwyfannwyd Estron am y tro cyntaf yn y Cwt Drama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. Dyma gyfle prin i weld gwaith buddugol y Fedal Ddrama ar daith genedlaethol.
“Ro’n i’n ddagrau i gyd, a gwên lydan ar fy ngwep, pan saethais ar fy nhraed ar ei diwedd . . . Dyma ddrama bwerus . . . y mae’n rhaid ei phrofi.” Lowri Cooke
#Estron
Theatr Genedlaethol Cymru
in association with the National Eisteddfod of Wales and Theatrau Sir Gâr
Estron (Alien)
by Hefin Robinson
A laptop, a tin of Quality Street chocolates, and an author searching for his play in an infinite universe.
Recent devastating events have turned Alun’s world upside down, but in the darkness he seeks solace in a visitor from another world.
An intriguing new play for the current generation by one of our most talented young writers, and winner of the Drama Medal at the Monmouthshire and District National Eisteddfod, 2016. Estron was performed for the first time in the Cwt Drama at the Anglesey National Eisteddfod, 2017. This is a rare opportunity to see this award-winning play on a national tour.
“I was in tears, with a wide grin on my face, when I jumped to my feet at the end . . . This is a powerful play . . . that must be experienced.” Lowri Cooke
#Estron