Sieiloc
– Canslwyd –
– Cancelled –
Mae’r digwyddiad yma bellach wedi’i ganslo. Os ydych chi wedi prynu tocyn, mae modd cael ad-daliad llawn trwy ffonio 01443 570 075, neu ymweld â ni yn y ganolfan.
This event is now cancelled. If you’ve bought a ticket, you can receive a full refund by calling 01443 570 075, or by visiting us in the centre.
Diolch.
Cynhyrchiad deithiol orau yn yr iaith Gymraeg – Gwobrau theatr Cymru 2018
Drama un dyn newydd yn yr iaith Gymraeg oddi wrth y tîm a ddaeth â Burton a Dylan Thomas: Clown in the Moon i’r llwyfan.
‘Stori ddigrif, drasig ac anghredadwy am fywyd Iddew enwocaf holl fyd ffuglen’
Ai dihiryn ynteu ddioddefwr a gafodd ei drin yn hallt yw Sieiloc y benthyciwr arian Iddewig o’r Marsiandiwr o Fenis?
Mae drama un-dyn rymus Gareth Armstrong yn herio’r stereoteipiau hyn drwy lygaid unig ffrind Sieiloc – ac unig Iddew arall holl waith Shakespeare – Tiwbal. Wrth ei ddyrchafu i ganol y llwyfan o’i rôl ymylol yn Y Marsiandiwr o Fenis, daw’n amlwg fod Tiwbal yn storïwr o fri, yn llawn o hiwmor, dichell a direidi. Ar ein siwrne, cawn gyfarfod â llu o gymeriadau lliwgar eraill; yn eu plith mae Portia a Phontius Peilat, Romeo a Max Reinardt, Barabas a Richard Burbage. Dewch i ddathlu iaith unigryw a chyfoethog Shakespeare yn y driniaeth fanwl, hudol a doniol hon o Sieiloc a’i bobl.
Awdur a Chyfarwyddwr: Gareth Armstrong
Cyfarwyddwr Cyswllt: Rhian Morgan
Perfformir gan Rhodri Miles
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg
Best touring production in Welsh – Wales theatre awards 2018
A new one man play in the Welsh language from the team that brought you Burton and Dylan Thomas: Clown in the Moon. ‘The tragic, funny and often unbelievable life of fiction’s most famous Jew’.
Is Shylock the Jewish moneylender from The Merchant of Venice a villain or victim?
Gareth Armstrong’s award winning solo play confronts these Jewish stereotypes through the eyes of his only friend – and the only other Jewish man in the whole of Shakespeare – Tubal. Promoted to centre stage from his minor role in The Merchant of Venice, he proves a born comic storyteller.
Celebrating the richness of Shakespeare’s language and conjuring up a whole cast of characters from Portia to Pontius Pilate, from Romeo to Max Reinhardt, and from Barabbas to Richard Burbage, this dazzling, moving, often hilarious play is a fascinating exploration of Shylock and his people. and
Directed by Gareth Armstrong
Associate Director: Rhian Morgan
Performed by Rhodri Miles
Performance through the medium of Welsh